Midwives across Wales are being offered the opportunity to learn Welsh, with a brand new course developed specifically for the profession.

The course will give midwives the practical language and confidence to use Welsh in everyday practice – from greeting a woman on her first appointment to supporting her through labour and beyond.
It’s designed to fit around a midwife’s working life and will be promoted to the more than 2,000 midwives working across Wales.
The course is launching as part of a partnership between the RCM and the National Centre for Learning Welsh.
Midwives will get hands-on tools to use on shift straight away, including lanyard cards featuring everyday greetings and phrases, so midwives can start bringing more Welsh into their day-to-day care from day one.
Julie Richards, Director of the Royal College of Midwives in Wales, said: “Midwives support women and their families through some of the most important moments of their lives and being able to use Welsh when providing care can make a real difference to people’s experiences.
“We’ll be encouraging more midwives across Wales to develop their Welsh language skills and take advantage of these new opportunities, thanks to our partnership with the National Centre.”
Midwives will be able to draw on the National Centre’s broader Health and Social Care provision too, including a dedicated Learn Welsh tutor in every health board and a range of online courses and digital learning.
Dona Lewis, Chief Executive of the National Centre for Learning Welsh, said: “We’re delighted to be working with the Royal College of Midwives on this latest programme.
“Through tailored, relevant learning materials and our flexible training, we aim to help midwives develop their skills and gain confidence to use Welsh in their work.”
The partnership is the latest in a series the National Centre has developed with health-sector bodies, following similar work with the Royal College of Psychiatrists and Macmillan Cancer Support and supports the Welsh Government’s More than just words framework for strengthening Welsh-language health and care services.
It was officially launched on Monday 3 August at the ‘More than Words’ stand at Eisteddfod y Garreg Las, with Julie Richards and Dona Lewis in attendance.
——————————————————————————————————————————————————
O fore da i enedigaeth: cwrs Cymraeg newydd i fydwragedd
Mae bydwragedd ledled Cymru yn cael cynnig y cyfle i ddysgu Cymraeg, gyda chwrs newydd sbon wedi’i ddatblygu’n benodol ar gyfer y proffesiwn.
Bydd y cwrs yn rhoi’r iaith ymarferol a’r hyder i fydwragedd ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith bob dydd – o gyfarch menyw yn ei hapwyntiad cyntaf i’w chefnogi drwy esgor a thu hwnt.
Mae wedi’i gynllunio i gyd-fynd â bywyd gwaith bydwraig a bydd yn cael ei hyrwyddo i’r mwy na 2,000 o fydwragedd sy’n gweithio ledled Cymru.
Caiff y cwrs ei lansio fel rhan o bartneriaeth rhwng Coleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM) a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Bydd bydwragedd yn cael offer ymarferol i’w defnyddio ar unwaith yn y gwaith, gan gynnwys cardiau laniard sy’n cynnwys cyfarchion ac ymadroddion bob dydd, gan eu galluogi i gyflwyno rhagor o Gymraeg i’w gofal dydd i ddydd o’r diwrnod cyntaf.
Dywedodd Julie Richards, Cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Bydwragedd yng Nghymru: “Mae bydwragedd yn cefnogi menywod a’u teuluoedd trwy rai o adegau pwysicaf eu bywydau, ac mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ofalu am fenywod yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i’w profiadau.
“Byddwn yn annog mwy o fydwragedd ledled Cymru i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg a manteisio ar y cyfleoedd newydd hyn, diolch i’n partneriaeth â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.”
Bydd bydwragedd yn gallu manteisio hefyd ar ddarpariaeth ehangach y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys tiwtor Dysgu Cymraeg ym mhob bwrdd iechyd ac ystod o gyrsiau ar-lein a chyfleoedd dysgu digidol.
Dywedodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Rydym yn falch iawn o gydweithio â Choleg Brenhinol y Bydwragedd ar y rhaglen ddiweddar hon.
“Drwy ddarparu deunyddiau dysgu perthnasol, sydd wedi’u teilwra, a hyfforddiant hyblyg, ein nod yw cefnogi bydwragedd i ddatblygu eu sgiliau a magu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith.”
Y bartneriaeth hon yw’r ddiweddaraf mewn cyfres o fentrau y mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi’u datblygu gyda chyrff yn y sector iechyd. Mae’n dilyn gwaith tebyg gyda Choleg Brenhinol y Seiciatryddion ac elusen Macmillan, ac yn cefnogi fframwaith Mwy na geiriau Llywodraeth Cymru i gryfhau gwasanaethau iechyd a gofal cyfrwng Cymraeg.
Fe’i lansiwyd yn swyddogol ddydd Llun, 3 Awst ar y stondin ‘Mwy na geiriau’ yn Eisteddfod y Garreg Las, gyda Julie Richards a Dona Lewis yn bresennol.