Gall defnyddio’r Gymraeg mewn gwasanaethau mamolaeth drawsnewid profiadau geni – gan wella canlyniadau i fenywod a theuluoedd. Dyna’r neges y mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM) yn ei chyflwyno i’r Eisteddfod Genedlaethol ddydd Gwener 8 Awst, wrth iddo gynnal bore o drafodaeth yn canolbwyntio ar rôl hanfodol y Gymraeg mewn gwasanaethau mamolaeth.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ystod esgor yn fwy na dewis cyfathrebu – mae’n hanfodol i ofal diogel, sy’n canolbwyntio ar y person. Mae ymchwil yn dangos bod menywod sy’n siarad Cymraeg yn teimlo’n fwy diogel ac yn cael mwy o gefnogaeth pan allant gyfathrebu yn eu hiaith gyntaf, yn enwedig yn ystod adegau sy’n newid bywyd fel genedigaeth.
I godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y Gymraeg mewn gwasanaethau mamolaeth, mae’r Coleg Brenhinol yn cynnal digwyddiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Gwener 8 Awst. Mae hyn yn cynnwys trafodaeth ar ddefnyddio’r Gymraeg mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol o 10.30am i 12pm, gyda sesiwn ffurfiol yn cael ei chynnal gan Arweinydd Iechyd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor, am 11.30am.
Cynhelir y digwyddiad ar yr un diwrnod ag y mae’r RCM yn ail-frandio yng Nghymru i RCM Cymru (RCM Wales gynt) – newid sy’n adlewyrchu ymrwymiad yr RCM i’r Gymraeg a’i defnydd ymhlith aelodau’r Coleg, a’r menywod a’r teuluoedd sy’n siarad Cymraeg ac sy’n defnyddio gwasanaethau mamolaeth ledled Cymru. Bydd y newid enw swyddogol o RCM Wales i RCM Cymru yn cael ei lansio yn yr Eglwys Genedlaethol, sef yr ŵyl ddiwylliannol fwyaf yn Ewrop. Ceir rhagor o fanylion amdano yma.
Dywedodd Julie Richards, Cyfarwyddwr RCM Cymru: “Bydd mam sy’n siarad Cymraeg yn teimlo’n fwy diogel yng ngofal bydwraig sy’n siarad Cymraeg. Mae profiad genedigaeth yn aros gyda mam am byth. Mae defnyddio’r Gymraeg yn gwneud gwahaniaeth nid yn unig yn y foment ond am flynyddoedd i ddod wrth iddynt fyfyrio ar eu genedigaeth.”
Mae’r RCM yn falch o gefnogi ei aelodau i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn eu hymarfer o ddydd i ddydd – nid yn unig er budd menywod a theuluoedd, ond hefyd er lles bydwragedd a gweithwyr cymorth mamolaeth eu hunain.
Ychwanegodd Julie: “Mae staff yn adrodd ei fod yn gwneud iddynt deimlo y gallant ddod â’u hunaniaeth gyfan i’r gwaith a pheidio â gorfod gadael eu hiaith, sy’n rhan o bwy ydynt, wrth y drws. Mae’n bwysig bod bydwragedd a gweithwyr cymorth mamolaeth yn teimlo’n fwy cyflawn eu hunain yn y gwaith.”
Mae yna nifer o gyfleoedd i ddysgu Cymraeg ac uwchsgilio sgiliau Cymraeg presennol trwy Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Dysgu Cymraeg.
Dywedodd Julie: “Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad clir i ymgorffori dewis iaith mewn gofal, fel y nodir yn ei Datganiad Ansawdd ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae’r datganiad yn rhagweld system famolaeth sy’n arwain y byd lle gall teuluoedd dderbyn gofal yn yr iaith a ddewisant, lle bynnag y bônt yng Nghymru.”
Pam mae’r Gymraeg yn bwysig mewn gofal mamolaeth:
- Canlyniadau gwell: Mae cyfathrebu clir yn ystod esgor yn hanfodol ar gyfer diogelwch a lles.
- Gofal personol: Cefnogir teuluoedd yn eu dewis iaith, gan barchu hunaniaeth ddiwylliannol.
- Bodlonrwydd staff: Mae bydwragedd yn teimlo’n fwy bodlon a chysylltiedig pan fyddant yn gallu defnyddio eu hiaith eu hunain.
- Profiadau cadarnhaol: Mae effaith emosiynol genedigaeth yn hirhoedlog – mae iaith yn chwarae rhan allweddol yn y ffordd y mae menywod yn prosesu’r profiad hwnnw.