Mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd yng Nghymru (RCM Wales) yn ailfrandio’n swyddogol fel RCM Cymru o 8 Awst 2025. Mae’r newid yn adlewyrchu ymrwymiad yr RCM i’r iaith Gymraeg a’i defnydd ymhlith aelodau’r undeb, a’r menywod a’r teuluoedd Cymraeg eu hiaith sy’n defnyddio gwasanaethau mamolaeth ledled Cymru.
Un o’r prif bethau sydd eu hangen i gynnig gwasanaethau mamolaeth mwy personol yw sicrhau bod staff yn adlewyrchu’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu. Dyma rywbeth y mae’r RCM wedi’i hyrwyddo ers amser maith. Mae cefnogi aelodau Cymraeg a dwyieithog yr undeb i wneud hynny mewn gwasanaethau mamolaeth Cymraeg yn gam hanfodol ymlaen. Yn ogystal â hyn, wrth ystyried y cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg sy’n dod drwy’r system addysg yng Nghymru, mae’n debygol y bydd yna gynnydd yn nifer y menywod Cymraeg eu hiaith sy’n defnyddio gwasanaethau mamolaeth.
Er bod ei aelodau Cymraeg wedi pleidleisio dros y newid, dywed yr RCM fod yr ailfrandio hefyd yn adlewyrchu esblygiad yr undeb o fewn teulu Cyngres Undebau Llafur Prydain. Dros y blynyddoedd diwethaf, bu’r RCM yng Nghymru hefyd yn gweithio’n agos gyda TUC Cymru, ac mae’n aelod cyswllt ohono.
Dywedodd Cyfarwyddwr RCM Cymru, Julie Richards:
“Gyda’r twf yn nifer yr aelodau Cymraeg eu hiaith, ynghyd â’n gwaith gyda TUC Cymru, roedd yr ailfrandio i RCM Cymru yn teimlo fel dilyniant naturiol i ni. Mae’r newid hefyd yn adlewyrchu ymrwymiad yr RCM i nid yn unig gefnogi, ond hefyd lledaenu, ein cymuned o fydwragedd a chynorthwywyr gofal mamolaeth sy’n siarad Cymraeg. Dwi’n falch o’n gwaith hyd yma ac yn gyffrous am y cyfle y bydd y gydnabyddiaeth fel RCM Cymru yn ei gynnig i ni a’n haelodau cyswllt yng Nghymru. Mae trafodaethau ar sut rydyn ni’n datblygu, esblygu a thrawsnewid ein hymrwymiad ag aelodau yn parhau. Wedi’r cyfan, mae’r geiriau ‘Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi’ yn berthnasol i ni i gyd! Gadewch i ni ddathlu’r Gymraeg gyda’n gilydd – ac ymunwch â ni ar y daith gyffrous hon.”
Mae RCM Cymru eisoes yn cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ac wedi sefydlu fforwm i undebau llafur drafod gwasanaethau Cymraeg a hawliau gweithwyr Cymraeg eu hiaith. I gefnogi’r daith, mae tîm RCM Cymru hefyd yn defnyddio’r Gymraeg yn weithredol yn y gwaith, ac mae gennym aelodau staff sydd eisoes wedi dechrau dysgu Cymraeg, neu sy’n bwriadu dechrau.
Fel rhan o’r dyletswyddau statudol sydd gan gyflogwyr y sector cyhoeddus mewn perthynas â’r Gymraeg, ac fel rhan o bolisi a chyfrifoldebau partneriaeth gymdeithasol undebau, mae yna angen i undebau llafur wneud cynlluniau a threfniadau ar frys i gefnogi hawliau Cymraeg y gweithlu, heddiw ac yfory. Mae hefyd angen iddyn nhw nodi cynrychiolwyr ac aelodau sydd ar hyn o bryd yn siarad Cymraeg, neu a allai fod yn ei siarad.
Wrth sôn am yr ailfrandio, dywedodd un o aelodau Bwrdd RCM, Angharad Oyler:
“Mae yna gymaint o fanteision o gynyddu gwelededd gwasanaethau Cymraeg i’n haelodau. Mae’n sicrhau bod ein haelodau Cymraeg eu hiaith, heddiw ac yfory, yn gallu ymwneud yn llawn, yn hyderus ac yn gyfforddus â’r RCM a’n gwasanaethau. Bydd hyn, yn ei dro, yn chwalu rhwystrau ac yn hyrwyddo cydraddoldeb.”
Bydd y newid enw o RCM Wales i RCM Cymru yn cael ei lansio’n swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Gwener, 8 Awst 2025. Yr Eisteddfod Genedlaethol yw’r ŵyl ddiwylliannol fwyaf yn Ewrop a gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion amdani yma.
DIWEDD
Ar gyfer unrhyw geisiadau am gyfweliad neu i gysylltu â Swyddfa’r Wasg yr RCM, ffoniwch 020 7312 3456, neu anfonwch e-bost at media@rcm.org.uk
NODIADAU I OLYGYDDION
Coleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM) yw’r unig undeb llafur a chymdeithas broffesiynol sy’n ymroddedig i wasanaethu bydwreigiaeth a’r tîm bydwreigiaeth cyfan. Rydyn ni’n cynnig cyngor a chymorth yn y gweithle, canllawiau proffesiynol a chlinigol, a gwybodaeth a chyfleoedd dysgu gyda’n hystod eang o ddigwyddiadau, cynadleddau ac adnoddau ar-lein. Am ragor o wybodaeth, ewch i’n gwefan.